25 Hydref 2023
Annwyl Jeremy
Ysgrifennaf atoch yn dilyn adroddiadau diweddar na fydd Duolingo bellach yn diweddaru nac yn golygu'r cwrs Cymraeg o ddiwedd mis Hydref 2023. Fel yr wyf yn siŵr y byddwch yn cytuno, mae'r newyddion hyn yn peri pryder mawr o ystyried nifer y dysgwyr sy'n defnyddio Duolingo, naill ai'n unig neu ochr yn ochr â darpariaeth ffurfiol, i ddysgu Cymraeg.
Buaswn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu:
§ Pryd y cawsoch eich hysbysu’n gyntaf o gynlluniau Duolingo;
§ Pa drafodaethau sydd wedi cael eu cynnal gennych chi neu eich swyddogion â Duolingo am y mater hwn, naill ai cyn, neu ers y cyhoeddiad hwn;
§ Pa drafodaethau rydych chi wedi'u cael gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ynghylch ei rôl wrth barhau i greu cynnwys ar gyfer Duolingo;
§ Pa oblygiadau posibl sy’n bodoli o ran y Ganolfan Genedlaethol pe caiff ei chynnig i helpu gyda gwaith datblygu’r cwrs Cymraeg ar Duolingo ei dderbyn.
Rydych wedi datgan yn y gorffennol y bydd y bartneriaeth rhwng Duolingo a'r Ganolfan Genedlaethol "yn creu hyd yn oed yn fwy o gyfleoedd i bobl fwynhau dysgu a defnyddio'r Gymraeg." Mae’r adnodd hwn, felly, yn rhan tyngedfennol wrth weithio tuag at yr uchelgais o sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, sy’n nod y gwn eich bod wedi ymrwymo i’w chyflawni.
Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb maes o law.
Yn gywir
Delyth Jewell
AS
Cadeirydd y Pwyllgor
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.